Met Gala | |
---|---|
Genre | Fundraising gala, costume exhibition |
Amlder | Annual, held on the first Monday of May[1] |
Adeilad / man | Metropolitan Museum of Art, Costume Institute |
Lleoliad | Fifth Avenue, Manhattan, New York City |
Gwlad | United States |
Hoedl | 1948–present[2] |
Sylfaenydd | Eleanor Lambert |
Y diweddaraf | 6 Mai 2019 |
Y nesaf | 4 Mai 2020 |
Organized by | Vogue |
Website | |
Costume Institute Gala | |
Gala started in 1946 and the first event was held in 1948.[3] |
Gala blynyddol i godi arian at y Metropolitan Museum yn Ninas Efrog Newydd yw'r Met Gala. Mae hefyd yn cael ei alw'n ffurfiol yn Costume Institute Gala a hefyd yn Met Ball. Mae'n nodi agoriad arddangosfa ffasiwn flynyddol y Sefydliad Gwisgoedd.[5] Mae'r digwyddiad yn cael ei gynnal yn flynyddol i ddathlu thema arddangosfa y Sefydliad Gwisgoedd y flwyddyn honno, ac mae'r arddangosfa'n gosod y naws ar gyfer gwisg ffurfiol y noson, gan fod disgwyl i westeion ddewis eu ffasiwn i gyd-fynd â thema'r arddangosfa.
Sefydlwyd y Met Gala yn 1948 fel ffordd o godi arian ar gyfer y Sefydliad Gwisgoedd a oedd newydd gael ei sefydlu, ac i nodi agoriad ei arddangosfa flynyddol. Roedd y gala cyntaf yn swper a gafodd ei gynnal am hanner nos, ac roedd y tocynnau yn costio hanner cant o ddoleri yr un. [6] Ers i'r cyn-brif-olygydd Vogue, Diana Vreeland, farw ym 1989, mae'r Met Gala wedi cael ei adnabod fel digwyddiad moethus, ac yn cael ei ystyried yn "the jewel in New York City's social crown". [7] [8] Mae'r Gala'n cael ei ystyried yn ledled y byd fel un o'r digwyddiadau cymdeithasol mwyaf unigryw sy'n bodoli, ac fel un o nosweithiau codi arian mwyaf yn Ninas Efrog Newydd. Casglwyd $9 miliwn o ddoleri (UDA) yn 2013, a $12 miliwn y flwyddyn wedyn.[9] [10] [11] [12] Y Met Gala yw un o ffynonellau cyllid mwyaf nodedig y Sefydliad,[13] a rhagwelir y bydd wedi codi dros $200 miliwn ar ôl digwyddiad 2019.[14]